Dangosyddion Cenedlaethol

workshop-5-the-wellbeing-of-future-generations-gweithdy-5-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-10-638

Dangosyddion Cenedlaethol

Er mwyn gwneud yn siŵr ein bod i gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn pennu saith o nodau llesiant.

Er mwyn inni gyrraedd y nodau llesiant hyn ar y cyd mae arnom angen ffordd o fesur cynnydd er mwyn i bawb ohonom allu gweld a yw pethau’n gwella i Gymru gyfan. Dyna pam fod y Ddeddf yn gosod gofyniad cyfreithiol ar Weinidogion Cymru i bennu dangosyddion cenedlaethol.

Mae’n rhaid i’r dangosyddion hyn gael “eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant”. Gellir eu datgan ar ffurf gwerth y gellir ei fesur, neu nodwedd y gellir ei mesur, yn feintiol (e.e. rhif) neu’n ansoddol (e.e. ansawdd rhywbeth) yn erbyn y nodau llesiant. Gellir eu mesur hefyd mewn perthynas â Chymru neu unrhyw ran o Gymru.
Er bod y dangosyddion yn cael eu pennu gan Weinidogion Cymru, maent yn adlewyrchu Cymru gyfan a byddant yn ein galluogi i ddeall y cyfraniad a wneir gan bawb.

Mae’r Ddeddf yn galluogi’r Gweinidogion I adolygu a diwygio’r dangosyddion cenedlaethol er mwyn iddynt barhau’n gyfredol ac yn berthnasol. Ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, mae’n rhaid i Weinidogion gyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol yn datgan y cynnydd a wnaed yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Y Dangosyddion Cenedlaethol

Dyma restr o’r dangosyddion a gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel sy’n ofynnol o dan adran 10 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Comments are closed.

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close