Beth y gallwn ei wneud?

resources_grass

Beth y gallwn ei wneud?

Gostwng – lleihau allyriadau carbon
Mae mwyafrif o allyriadau’r DU (85% yn 2011) yn codi yn sgil ein cynhyrchiad a’n defnydd o ynni – p’un ai trwy yrru ceir, gweithgynhyrchu nwyddau neu ferwi’r tegell. Gallwn leihau allyriadau trwy fod yn ynni effeithlon a thrwy newid i danwydd carbon isel. Bydd y ddau yn angenrheidiol i fodloni targedau carbon y DU, ynghyd â gweithredu i fynd i’r afael ag allyriadau nad ydynt yn rhai ynni.

I gyflawni hyn, rhaid gweithredu ar bob lefel, o’r llywodraeth, i ddiwydiant a busnes, a chartrefi.

Llywodraeth Cymru
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2010, mewn ymateb i Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 Llywodraeth y DU, a gosodwyd y targedau canlynol ar gyfer gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr:

  • Gostwng allyriadau 3% y flwyddyn o 2011, yn erbyn llinell sylfaenol o allyriadau cyfartalog rhwng 2006 a 2010;
  • Cyflawni gostyngiad o 40% o leiaf mewn allyriadau yng Nghymru erbyn 2020, o’i gymharu â lefelau 1990;
  • Cyflawni gostyngiad o 80% o leiaf mewn allyriadau yng Nghymru erbyn 2050, o’i gymharu â lefelau 1990.
  • Mae’r gostyngiad o 3% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn canolbwyntio’n bennaf ar y sectorau trafnidiaeth, preswyl, busnes, amaethyddiaeth a defnydd tir, a’r sectorau cyhoeddus a gwastraff, ac mae’n eithrio’r sectorau diwydiant trwm a chynhyrchu pŵer.

Mae adroddiad blynyddol Newid yn yr Hinsawdd 2014 yn dangos bod Cymru’n gwneud cynnydd da tuag at gyflawni’r targed gostwng blynyddol o 3%, yn enwedig yn y sectorau busnes, effeithlonrwydd ynni a gwastraff, fodd bynnag, bydd angen ymdrech barhaus a chynyddol ar draws y sectorau i gyflawni’r targed o 40%.

I weld sut mae’r DU gyfan yn gwneud o ran gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr, ewch i wefan Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Lefel Leol
Mae defnyddio ynni’n fwy effeithlon yn rhan hanfodol o’n strategaeth ar gyfer gostwng allyriadau carbon yn y DU ac yng Nghymru. Mae gan bawb rôl i’w chwarae, p’un ai fel defnyddiwr neu mewn busnes. Bydd galw bob amser am ynni, ond mae angen newid y ffordd rydym ni’n ei ddefnyddio, a faint rydym ni’n ei ddefnyddio. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n bosibl arbed ynni ac arbed arian ar yr un pryd.

Defnyddwyr:
Mae amrywiaeth o ffyrdd y gall defnyddwyr arbed arian ac ynni ar yr un pryd trwy fesurau cost isel, gan gynnwys insiwleiddio, newid golau, offer a boeleri i rai mwy effeithlon, hefyd, ystyriwch leihau eich teithiau mewn car trwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded neu feicio, a phrynu cerbydau sy’n fwy effeithlon.

Mae gwybodaeth a chyngor ar sut i fod yn fwy ynni effeithlon ar gael trwy Cymru Effeithlon a’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Busnes:
Mae gan adeiladau swyddfa gwmpas ar gyfer insiwleiddio gwell neu systemau gwresogi mwy effeithlon, uwchraddio offer i rai mwy effeithlon a rheoli ynni’n well. Mae Cynllun Effeithlonrwydd Ynni’r Ymrwymiad Lleihau Carbon yn annog sefydliadau mawr y sectorau preifat a chyhoeddus i lunio strategaethau rheoli ynni sy’n hyrwyddo dealltwriaeth well o ddefnydd ynni.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Garbon nifer o ganllawiau i helpu busnesau i wireddu’r cyfleoedd hyn.

Mae gwybodaeth a chyngor ar gael trwy Cymru Effeithlon hefyd.

Tanwydd carbon isel
Er gwaethaf ymdrechion ynni effeithlon, bydd ein heconomi fodern yn parhau i wynebu’r her o alw sylweddol am ynni. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael ei phweru’n bennaf gan orsafoedd pŵer tanwydd ffosil, sy’n rhai o brif ffynonellau allyriadau carbon. Felly, mae symud at danwydd carbon isel, neu’n ddelfrydol, di-garbon, yn hanfodol i leihau ein hallyriadau.

Mae nifer o gyfleoedd i leihau ein dibynadwyedd ar danwydd ffosil. Gallwn gynyddu faint o drydan a gynhyrchir trwy dechnolegau adnewyddadwy carbon isel, gan ddibynnu llai ar nwy a glo, a gallwn gynhyrchu gwres trwy dechnolegau carbon isel fel pympiau gwres o’r ddaear neu o’r aer (dal gwres o’r ddaear neu o’r aer). Fel cenedl, rydym yn gyfoethog mewn adnoddau cynaliadwy – fel gwynt, a ffynonellau dŵr, fel afonydd, tonnau a llanw, solar, a geothermol – y dylid buddsoddi mwy ynddynt.

Mae defnyddio mwy o drydan (e.e. trwy gerbydau trydan neu bympiau gwres trydan) a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel yn darparu llwybr at ddatgarboneiddio hefyd.

O ran pweru ein cerbydau, mae potensial ar gyfer cymysgu biodanwydd â phetrol a diesel. Yn y tymor hwy, mae defnyddio trydan neu hydrogen a gynhyrchir o ffynonellau carbon isel yn cynnig cyfle da ar gyfer datgarboneiddio trafnidiaeth ffyrdd yn fwy radical.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth am dechnolegau carbon isel.

Ar lefel fwy lleol, dylai perchnogion tai a busnesau geisio:

  • Newid eu darparwyr gwasanaethau i gyflenwyr ynni cynaliadwy.
  • Ystyried gosod technoleg adnewyddadwy ar eu hadeiladau, os yw’n briodol, fel solar PV a solar thermol, hydrodrydan, tyrbinau gwynt a geothermol.

Ymaddasu – addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn cydnabod, er gwaethaf ymdrechion i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, nad yw’n bosibl osgoi effeithiau newid yn yr hinsawdd yn gyfan gwbl, oherwydd allyriadau presennol ac yn y gorffennol.

Yr ymdrech fyd-eang bresennol yw ceisio cadw cynnydd y tymheredd cyfartalog byd-eang o dan 2°C; tu hwnt i 2°C, byddwn yn mynd heibio’r trothwy o newid yn yr hinsawdd ‘peryglus’ – hynny yw, newid yn yr hinsawdd ag effeithiau arwyddocaol iawn, lle mae adborthion mewn systemau naturiol sy’n arwain at fwy o allyriadau, yn cael eu sbarduno.

Bydd cynnydd mewn tymheredd byd-eang yn achosi newidiadau i dywydd byd-eang, gan achosi digwyddiadau tywydd amlach a mwy eithafol, fel stormydd, llifogydd arfordirol ac afonydd, yn ogystal â sychderau. Mae tystiolaeth bod hyn eisoes yn digwydd:

  • Bu farw oddeutu 2,000 o bobl yn y DU yn sgil y tywydd poeth yn 2003.
  • Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae llifogydd a thywydd difrifol ledled y DU wedi costio, ar gyfartaledd, £1.5 biliwn y flwyddyn mewn hawliadau yswiriant.
  • Yn 2007, effeithiwyd ar 55,000 o gartrefi yn sgil llifogydd eang, lladdwyd 13 o bobl a chostiodd £3.2 biliwn i’r economi.

Mae Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn amlinellu fframwaith ymaddasu ar gyfer sut gall Cymru baratoi ac addasu i’r effeithiau posibl yn y dyfodol, sy’n cynnwys llifogydd, digwyddiadau tywydd difrifol a chynnydd yn lefel y môr. Hefyd, mae angen i ni ystyried cyfleoedd posibl – gwneud sefydliadau ac unigolion yn fwy gwydn i’r newidiadau sydd ar ddod.

Mae is-grŵp ymaddasu’r Comisiwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i lunio Cynlluniau Ymaddasu Sectorol ar gyfer yr amgylchedd naturiol, cymunedau, seilwaith, busnes a thwristiaeth, ac iechyd.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae’r DU yn paratoi, cliciwch yma.

By continuing to use the site, you agree to the use of cookies. more information

The cookie settings on this website are set to "allow cookies" to give you the best browsing experience possible. If you continue to use this website without changing your cookie settings or you click "Accept" below then you are consenting to this.

Close